Ysgol Llangwm

in Beirdd Bach with No Comments

Dyma gerddi a grewyd gan blant Ysgol Llangwm yn dilyn ymweliad Eurig Salisbury â’r ysgol ym mis Hydref

 

Sioc

O’r holl bethau sy’n codi braw,
Pry cop blewog, hyll ar y naw,
Pwmpen Calan Gaeaf â gwên fel melltan,
Y gwaethaf un yw weiran drydan!

Cerdd y dosbarth.

 

Rygbi

O’r holl chwaraeon dwi yn ei hoffi,
Yr un gorau yw rygbi,
Pan mae Nant yn chwarae Bala,
Bobl bach mae na gega!

Cerdd gan Morgan, Llion a Jac.


Calan Gaeaf

Cnoc, cnoc mae rhywun wrth y drws.
Tybed â ydi o’n dlws?
Sgerbwd ac ysbryd a zombie a gwrach.
Dwi yn syllu a sefyll
Ac yn teimlo mewn starch.
Booooooooooooooooooooooooooo
Ei winedd hir yn dod amdanaf,
Gwaed yn llifo……………..
FINNAU YN CRIO!

Cerdd gan Lliwen, Nanw ac Elliw.

 

Motobeic

Motobeic yn wyllt a lori ar frys
Pa un fydd yn byw i fynd i’r llys?
Arogl rwber, brecs yn llosgi
Mae’r ddau angen eu cosbi.

 Cerdd gan Ruben a Gwion.

 

Ci – Ralff

Mae fy ffrind yn hoffi cyfarth,
Mae’n byw yn y cwt yn y buarth.
Mae o’n hoffi ysgwyd ei gynffon
A chwilio am gath a’i lygaid crynion.

Cerdd gan Jorja a Hannah.

 

top