Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac Ysgol Pennant

in Bardd with No Comments

Fore dydd Iau 8 Tachwedd fe deithiais i bentref bach hyfryd ar odre’r Berwyn – Llanrhaeadr-ym-Mochnant! Roedd tad Nain, Oswald Rogers, yn byw yn Llanrhaeadr, ond dyma’r tro cyntaf i mi ymweld รข’r pentref.

Fe ges i amser anhygoel o dda yng nghwmni plant yr ysgol. Meddyliodd y plant am bentwr o eiriau i’w defnyddio i greu pennill am Gymru:

20121111-181037.jpg

A dyma’r gerdd i Gymru a gyfansoddodd y dosbarth gyda’i gilydd:

20121111-181115.jpg

Fe deithiais i wedyn i bentref Pen-y-bont Fawr gerllaw. Yno, yn Ysgol Pennant, fe ges i ginio da cyn cael cwmni’r plant yn y prynhawn. Roedden nhw’n griw hyfryd iawn, yn llawn cerddi bach gwych am bob math o bethau – o foch bach pinc i gyffro diwrnod cneifio!

Dyma eiriau a ddefnyddiodd y plant i ddisgrifio eu hysgol arbennig nhw:

20121111-182525.jpg

A dyma’r gerdd a gyfansoddodd y plant i Ysgol Pennant:

20121111-182608.jpg

Diolch yn fawr i’r plant am ddiwrnod llawn hwyl, ac i Claire Owen o Fenter Maldwyn am ei chwmni ac am roi trefn ar yr ymweliadau!

top