Ysgol Maes y Gwendraeth a Slam Cymru

in Bardd with No Comments

Fore Llun mi fûm yn Ysgol Maes Y Gwendraeth, ger Cefneithin. Mae’n ysgol sydd wedi newid enw a wynebu newidiadau eraill wrth i addsyg yn Sir Gâr gael ei adrefnu. Ac er nad oes ‘gyrfa’ bellach yn enw’r ysgol, gwelais arwyddion gobeithiol fore Llun fod yna ambell un a allai gael gyrfa fel beirdd a llenorion. Mi fues i’n sefydlu tîm i gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth Genedlaethol Slam Cymru, a fydd yn digwydd ym mis Mai a mis Mehefin. Enillodd Maes y Gwendraeth y Slam Cymraeg ei iaith cyntaf erioed y llynedd yn Eisteddfod Sir Gâr o blith rhai o ysgolion y sir. Addas yw eu bod nhw felly yn mynd ymlaen i gynrychioli Sir Gâr yn Slam Cymru. Mae’n gystadleuaeth lle bydd cerddi Cymraeg a Saesneg yn cystadlu yn erbyn eu gilydd (drwy gael beirniaid dwyieithog yn y gynulleidfa) ac felly mae’n gyffrous gweithio gyda’r beirdd hyn i sicrhau cynrychiolaeth o’r awen Gymraeg yn Slam Cymru. Dim ond y dechrau yw hyn, bydd ymweliadau pellach â’r Ysgol a mwy i’w adrodd am hynt y cerddi a’r perfformiadau y gallwn eu disgwyl gan y criw dawnus hwn.

top