YSGOL MORGAN LLWYD + MAES GARMON, AC YSGOL GLANRAFON YR WYDDGRUG.

in Uncategorized with No Comments

YSGOL MORGAN LLWYD + MAES GARMON, AC YSGOL GLANRAFON YR WYDDGRUG.

Roedd hi’n ddiwrnod amrywiol iawn wrth i mi gael gweithio gyda chriw o flwyddyn 8 yn y bore a chriw blwyddyn 6 yn y prynhawn. Roedd y criw uwchradd ychydig yn fwy tawel na chriw’r prynhawn. Ond yn ddigon parod i weithio chwarae teg. Roedd ’na syniadau gwych i’w gael wrth iddyn nhw feddwl am y testun “Balchder”, “Sŵ” a “Tywydd”. Roedd rhai wedi mynd at ii arall eirio Mae Hen Wlad fy Nhadau ac eraill wedi meddwl am yr holl idiomau y mae nhw’n falch o allu eu deall am eu bod nhw’n Gymraeg. Roedd y grwp oedd yn creu cerdd am y sŵ wedi defnyddio’r gêm “Mi wela i efo’n llygaid bach i…”! Difyr iawn! Ac roedd y gerdd Tywydd yn canolbwyntio ar greu delweddau am y tymhorau. Syniadau gwirioneddol wych! Ond gwynebau gwirion…

 

llun 5

 

Erbyn i mi fynd draw i Ysgo Glanrafon roedd petha’n poethi! Roedd ’na griw mawr a phawb yn barod i gael hwyl. Wnaethon ni chwarae Peli Eira Geiria a llwyddo i odli, cyflythrennu, defnyddio’r cytseiniaid ac odli mewnol gyda’r holl beli eira! Roedd amser am un gêm o Corwynt hefyd. Cyfle i frwydro am bwyntiau a chreu delweddau a chymhariaethau gwallgof! Roeddan ni mor brysur yn cael hwyl chawson ni ddim cyfle i gyfansoddi cerdd!!

top