YSGOL TREGANNA, SANT CURIG a GWAUN Y NANT!

in Uncategorized with No Comments

YSGOL TREGANNA, SANT CURIG a GWAUN Y NANT!

Wel dyna groeso sydd i gael yn yr ysgolion yma! Yn Ysgol Treganna ges i’r fraint o ymweld a dau ddosbarth. Roedd pawb wedi mwynhau ac wedi llwyddo i odli’n wirion!! Roedd ambell un wedi ysgrifennu cerddi hyfryd…dwi’n dal i aros i Mr Evans anfon lluniau o’ch cerddi i mi gael eu dangos!! Da iawn chi!

 

Yn Ysgol Sant Curig roedd ’na feirdd bach prysur iawn a gafon ni lawer iawn o hwyl yn y neuadd!! Dyma un bennill hyfryd:

 

Y LLE PENDRAMWNAGL

 

Disgynnodd o’r goeden ddeilen

yng nghanol dyddiau heulwen.

Ond roedd hi’n wyllt yn y pentref,

doedd hi ddim yn hydref!!

 

Gwych iawn wir!!

 

llun 1

Yn Ysgol Gwaun y Nant roedd ’na griw prysur iawn. Rhai wedi bod yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod ac eraill wedi bod yn chwarae pêl-droed. Roeddan nhw i gyd yn arwyr yn eu ffordd eu hunain felly dyma greu cerdd am arch-arwr arbennig o’r enw Bleddyn…

 

ARWR GWAUN Y NANT

 

Gwallt emrallt gwyllt.

Mae’n gyflym fel mellten.

Clustiau mawr fel coed

yn tyfu’n syth o’i ben.

Gall saethu dail miniog

o’i glustiau direidus,

a chwythu tân o’i ffroenau

fel draig drygionus.

Ond mae Bleddyn yn gyfeillgar

ac yn ffrind da i blant.

Mae’n ddewr a charedig,

arwr arbennig Gwaun y Nant.

 

llun 2 eto eto

Allwch chi greu arch-arwr?!

 

top