Ysgol Uwchradd Tywyn ac Ysgol y Gader

in Bardd with No Comments

Ysgol Uwchradd Tywyn ac Ysgol y Gader

Drannoeth fy ymweliad â phlant Ysgol Craig y Deryn, fe ymwelais i â dwy ysgol uwchradd ym Meirionnydd. Y gyntaf oedd Ysgol Uwchradd Tywyn, lle cefais i gwmni plant blwyddyn 7. A bod yn fanwl gywir, dosbarth 7A, criw bywiog iawn o blant – yn arbennig yr hogiau!

20130414-131113.jpg

Roedd y plant â’u bryd ar ysgrifennu cerdd fach i’w dosbarth nhw, a dyma hi:

Ni yw dosbarth Mrs. Jarman
Sy o hyd yn hoffi brolian,
Dosbarth gwyllt sy weithiau’n wirion,
‘Nytars llwyr’ yn ôl yr athrawon!

Ni yw’r ugain mwyaf doniol,
Mwyaf swnllyd a chreadigol,
Mae rhai’n swil a rhai’n hyderus,
Rhai yn dawel a rhai’n siaradus.

Yna yn y prynhawn fe deithiais i draw i Ddolgellau, prynu cinio cyflym (a blasus iawn) yng nghaffi T.H. Roberts, cyn bwrw draw i Ysgol y Gader.

20130414-132415.jpg

Roedd criw dychmygus iawn o ddisgyblion yno, yn barod i greu cerddi am bob math o bethau. Dyma un gerdd a ysgrifennodd y dosbarth gyda’i gilydd, a hynny pan oedd sgandal y cig ceffyl yn y newyddion. Y testun oedd ‘dychymyg’ ac, fel y gweli di, gall unrhyw beth yn y byd ddigwydd wrth ddefnyddio hwnnw!

Wel dyna be oedd anffawd swnllyd,
Pan saethodd yr eryr i mewn – dychrynllyd!
Fe awn â’i adenydd, ei gnawd a’i big
A’i roi i Tesco i’w werthu fel cig.

top