Ysgol y Gelli ac Ysgol Llanllyfni – Caernarfon

in Bardd with No Comments

Ar ôl ymweld ag ysgolion Llanllechid a Thryfan ar 22 Hydref, fe ges i le i aros dros nos gyda fy chwaer, Leila, yn y Felinheli. Y bore wedyn, wedi llowcio brecwast da gyda Leila, fe deithiais i ar siwrnai fer iawn i Gaernarfon. Yr ysgol yr o’n i’n mynd i ymweld â hi y bore hwnnw oedd Ysgol y Gelli.

Plant hyfryd a thalentog iawn sy yn Ysgol y Gelli. Fe gawson ni hwyl fawr yn creu penillion am Galan Gaeaf, noson Guto Ffowc a phob peth arall yr oedd y plant am ei wneud dros eu gwyliau hanner tymor.

Dyma un o’r cerddi, gan Gruffudd a Jac:

Gwyliau Hydref

Cloch yn canu am y tro olaf,
Edrych ymlaen am Galan Gaeaf,
Rhedeg adref i ffonio ffrindia,
I chwarae xbox 360, ia!
Mynd allan am fwyd i ddathlu’r ŵyl,
O, dyna ichi syniad sy’n llawn hwyl!

Os hoffech chi ddarllen mwy o gerddi gwych plant Ysgol y Gelli, cliciwch fan yma.

Y prynhawn hwnnw fe deithiais i Ysgol Llanllyfni ychydig i’r de o Gaernarfon, lle ces i groeso da iawn. Dyma ni’n mynd ati i greu penillion llawn dychymyg am noson arswydus Calan Gaeaf a hwyl a sbri Noson Tân Gwyllt. Wrth sôn am ysbrydion dychrynllyd, fe ddaethon ni ag un gerdd i ben gydag ychydig o hiwmor (peth hynod o bwysig mewn cerddi arswydus!):

Teimlo dychryn a chlywed sgrech …
Na, ‘mond Dad yn taro rhech!

20121106-161312.jpg

top