Ysgol y Moelwyn

in Bardd with No Comments

Ysgol y Moelwyn

Drannoeth fy ymweliad â dwy ysgol uwchradd ym Meirionnydd, fe ymwelais i ag ysgol uwchradd arall yng Ngwynedd ar ddiwrnod arbennig iawn. Roedd hi’n gyntaf o Fawrth, yn Ddydd Gŵyl Ddewi! Ac roeddwn i wedi cael fy ngwahodd i Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.

Roedd y disgyblion yn wrandawgar iawn, ac ystyried ei bod hi’n brynhawn Gwener ac yn ŵyl ein nawddsant! Fyswn i ddim wedi medru dod o hyd i griw gwell, a dweud y gwir, i dreulio’r diwrnod arbennig yn eu cwmni.

Lluniodd pob grŵp gerddi da iawn ar wahanol bynciau – un am rasio ceir rali, un arall am chwedl y ddraig goch a’r ddraig wen yn Ninas Emrys, un arall am y rygbi ac un am genedl Cymru.

A dyma un gerdd arall a luniodd y dosbarth gyda’i gilydd – cerdd, wrth gwrs, i Dewi ei hun:

Chwifiwch faner ddu a melyn y Cymro,
Baner ein nawddsant o Sir Benfro,
Arwr caredig fu’n troi’r sâl yn iach
Sy’n cael ei gofio am wneud y pethau bach.

20130414-135245.jpg

Gobeithio’n wir y cafodd holl blant Cymru Ddydd Gŵyl Ddewi gwerth chweil!

top